== Apêl gan Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia. ==
<!--
!! NOTE TO TRANSLATORS !!
This letter is a new translation request, but re-uses large parts of the first Jimmy Letter ("Jimmy Letter 001"), but in different order. If the first Jimmy Letter has been translated into your language, you can probably re-use much of it for this translation. Sorry about the confusion! :-)
To see the translation of the first letter for your language, click "view" in the box for "Original source text" above, and there will be a link to it at the top.
-->
Mae gan Gwgl a Yahoo filoedd o staff a gweinyddion. Mae'r rhyw 800 o weinyddion a 150 o staff sydd gennym ni yn ddigon.
Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 450 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.
Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.
Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.
Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu $£5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.
Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o $£5, $£20, $£50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.
Diolch yn fawr,
|